James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Presbyteraidd Llandinam

Roedd Eglwys Bresbyteraidd Llandinam yn awyddus i gael help i brynu teledu, stand a dongl. Mae’r rhain bellach yn eu lle, yn yr ysgoldy ar hyn o bryd gan mai yno y cynhelir yr addoliad dros fisoedd y gaeaf. Mae’r capel wedi cynnal Grŵp Grawys Eciwmenaidd gyda’r Eglwys yng Nghymru yn ddiweddar, a’r mynychwyr wedi gallu gwylio cyfres o’r enw Undiscovered Lent ar y sgrin a mwynhau trafodaeth fywiog yn dilyn pob cyflwyniad.

Yn ôl y Parchedig Monica O’Dea, gweinidog Gofalaeth Bro Llandinam, “Rwy’n edrych ymlaen at symud y sgrin drwodd i’r prif gapel ym mis Mai ar gyfer Gwasanaeth Cymorth Cristnogol yr Ofalaeth. Rwy’n gobeithio cael y bobl ifanc i gymryd rhan yn yr addoliad a gwn y bydd yn cyfoethogi ein hamser gyda’n gilydd ac yn rhoi mwy o sgôp i mi wrth drafod y tlodi yn ein byd a’n hangen i ymateb yn weddigar ac ymarferol.

Hoffwn felly, ar ran Eglwys Bresbyteraidd Llandinam, ddiolch i Bantyfedwen am eich cefnogaeth hael i’n gweinidogaeth. Yr wyf yn canmol Duw am ei ddarpariaeth trwoch chi ac am y ffordd y mae Duw yn parhau i adeiladu ei Deyrnas yma ar y ddaear. Mae ganddo gynllun, ac rwy’n hyderus bod defnyddio’r math hwn o offer newydd i gyd yn rhan ohono.”