James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Tomos Owen Jones

Mae’r grant a gefais gan  Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wedi rhoi’r cyfle i mi ennill Rhagoriaeth ar gwrs Cyfansoddwr-Perfformiwr MMus yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru. Mae hwn yn gwrs Meistr dwys dros ddwy flynedd yn astudio cyfansoddi cerddoriaeth a pherfformio yn llawn amser, a fi yw’r person cyntaf i wneud hynny fel cyfansoddwr a chanwr clasurol.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae’r cwrs wedi rhoi’r cyfle i mi gyfansoddi nifer fawr o ddarnau ar gyfer amrywiaeth eang o berfformiadau. Mae’r rhain wedi cynnwys fy opera siambr gyntaf, a berfformiwyd am y tro cyntaf yng Ngŵyl Atmospheres Caerdydd, fy nghylch caneuon cyntaf (ysgrifennwyd am gostau byw ar gyfer cyngerdd codi arian ar gyfer Banc Bwyd Caerdydd), a gweithiau siambr a berfformiwyd yng Ngŵyl Lieder Leeds, yr Eisteddfod Genedlaethol yng Ngwynedd, a gan ensembles gan gynnwys Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC. Hefyd, sefydlais a chyfarwyddo cwmni opera ar raddfa fechan yn y coleg, ac yn ddiweddar bûm yn gyfrifol am arwain trefniant ein hunain o opera Humperdink, Hansel and Gretel.

Rwyf hefyd wedi cael llawer iawn o brofiad canu ar y cwrs, gan berfformio rolau operatig megis L’Aumonier yn Dialogues of the Carmelites gan Poulanc, Monsieur Vogelsang yn Der Shauspieldirektor Mozart, ac Eisenstein yn Die Fledermaus Strauss, yn ogystal â nifer o gyngherddau. Ar wahan i’r profiadau o fewn y coleg, cenais ran Semyon Semyonovitch yng nghynhyrchiad Cwmni Ifanc WNO o Cherry Town, Moscow gan Shostakovitch, ac yng nghorws La Sonnambula gyda Random Opera.

Mae'r cwrs wedi bod yn hynod gyffrous ac ysbrydoledig ond wedi gofyn am lawer iawn o waith ac ymroddiad, sydd wedi ei gwneud hi'n anodd cael gwaith rheolaidd i ariannu'r cwrs. Ond diolch i gefnogaeth Pantyfedwen, rwyf wedi gallu gwneud y mwyaf o nifer enfawr o gyfleoedd proffesiynol hynod gyffrous yn ystod y cyfnod hwn. Rwy’n gobeithio creu gyrfa ar fy liwt fy hun fel canwr, cyfansoddwr ac arweinydd, ac mae’r cwrs hwn wedi bod yn amhrisiadwy o ran ennill llawer iawn o brofiad yn barod i ddechrau ar fy ngyrfa broffesiynol.