James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Mali Tucker-Roberts

Galluogodd grant James Pantyfedwen i mi astudio gradd Meistr mewn Astudiaethau Ewropeaidd yng Ngholeg y Brenin, Llundain. Gan fy mod i wedi astudio Almaeneg ar gyfer fy ngradd israddedig, dewisais i’r ‘Llwybr Almaeneg’, ac felly, ces y cyfle i astudio ym Mhrifysgol Humboldt yn Berlin am dymor. Heb os, ni fyddwn i wedi gallu fforddio profiad mor unigryw heb Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Treuliais hanner cyntaf fy nghwrs yng Ngholeg y Brenin Llundain, yn astudio amrywiaeth o fodiwlau ar agweddau gwahanol o wleidyddiaeth Ewropeaidd. Un o’r cyrsiau oedd ‘Rwsia a’r Undeb Ewropeiaidd’ – pwnc hynod o berthnasol a phwysig o ystyried fod hyn mond ychydig o fisoedd ar ôl ymosodiad erchyll Rwsia ar Wcráin. Wedi astudio Rwsieg ar gyfer fy ngradd israddedig ac wedi byw yn Rwsia am gyfnod, roedd hwn yn bwnc agos at fy nghalon, ac rwy’n teimlo’n hynod o ffodus o fod wedi cael y cyfle i astudio pwnc mor bwysig yn ystod cyfnod mor nodedig mewn gwleidyddiaeth gyfoes.

Yn ystod fy ail dymor yn astudio ym Mhrifysgol Humboldt yn Berlin, datblygais fy sgiliau Almaeneg ymhellach trwy astudio rhai modiwlau trwy’r iaith. Tra roeddwn i yn yr Almaen, roeddwn i hefyd yn ysgrifennu fy nhraethawd hir. Penderfynais gyfuno fy niddordeb brwd mewn ieithoedd gyda gwleidyddiaeth gyfoes Ewropeiaidd, ac ysgrifennu am effaith sefydliadau rhyngwladol ar ieithoedd lleiafrifol, gan ddefnyddio achos y Gymraeg a Siartr Ewrop ar gyfer Ieithoedd Rhanbarthol neu Leiafrifol. Roedd hi’n wych gallu canolbwyntio ar fy hunaniaeth Gymreig drwy lens Ewropeaidd.

Rydw i bellach yn gweithio yn trefnu digwyddiadau i’r  ‘Centre for European Reform’, melin drafod wedi’i lleoli yn San Steffan a gyda swyddfeydd ym Mrwsel a Berlin, sy’n gweithio ar faterion gwleidyddiaeth Ewrop. Dwi’n falch iawn i allu gweithio mewn maes sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’m hastudiaethau.

Dwi’n hynod o ddiolchgar i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, nid yn unig am y cyfle i astudio maes dwi wedi mwynhau gymaint, ond hefyd am fy arwain at yrfa mor gyffrous. Diolch o galon.