James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Sioned Mair Beynon

Rwy’n hynod o ddiolchgar i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu cefnogaeth i fy ngalluogi i ddilyn Cwrs MA Cerddoriaeth ym Mhrifysgol Caerdydd. Bu’r cwrs yn allweddol i fy natblygiad cerddorol a phersonol.

Roeddwn yn ffodus o dderbyn nifer o gyfleoedd gwerthfawr yn ystod astudiaethau fy ngradd Meistr. Wrth ddilyn y llwybr cyfansoddi, cefais gyfle i ddatblygu fy arddull gyfansoddi bersonol. Cefais hefyd brofiad o gyfansoddi i nifer o gyfuniadau gwahanol o offerynnau yn ystod y flwyddyn, a chael mynychu gweithdai gydag offerynwyr proffesiynol er mwyn datblygu a gweithio ar fy narnau. Braf oedd medru cael y profiad o glywed fy ngwaith yn cael ei berfformio o fewn y gweithdai yma. Roeddwn hefyd yn ddiolchgar i’r Brifysgol am roi’r platfform i mi fedru perfformio fy narnau fy hun mewn cyngherddau cyhoeddus. Er mai’r llwybr cyfansoddi wnes i ddilyn, roedd astudio modiwlau tu allan i’r maes cyfansoddi, megis modiwlau dysgu ac arwain ensemblau, yn fuddiol iawn, er mwyn rhoi’r cyfle i mi ddatblygu sgiliau ychwanegol tu hwnt i’r maes cyfansoddi yn unig. Fe wnaeth y cwrs fy natblygu, nid yn unig fel cyfansoddwraig, ond fel cerddor yn gyffredinol.

Mawr obeithiaf, o amgylch fy swydd llawn amser, y byddaf yn medru parhau i gyfansoddi a pherfformio yn fy amser sbâr. Mawr yw fy niolch i’r ymddiriedolaeth am eu cefnogaeth.