James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Hannah Glasser

Trwy astudio fy nghwrs Meistr mewn Tirwedd a Lles ym Mhrifysgol Caeredin, mae gennyf bellach ddealltwriaeth wych o’r modd y mae’r amgylchedd awyr agored yn cefnogi ac yn gwella lles. Gallaf ddweud yn hyderus bod fy angerdd dros ddysgu gwir effeithiau a buddion  gwahanol amgylcheddau awyr agored ar les pobl wedi’i fodloni. Rwyf bellach yn barod i ymchwilio a gwneud argymhellion ar gyfer cynllunio a dylunio tirweddau sy'n cefnogi ac yn gwella iechyd a lles dynol, ac i werthuso eu heffeithiolrwydd.

Yn ystod y cwrs, astudiais amrywiaeth eang o fodiwlau, yn cynnwys Sylfeini Damcaniaethol,  Dylunio Tirwedd ar gyfer Iechyd a Lles, Heriau Iechyd Byd-eang, Therapïau Creadigol,  Bwyd, Anifeiliaid a Chymdeithas a Dulliau Ymchwil. Mae gen i nawr:

- Ddealltwriaeth feirniadol o ddadleuon cyfoes a datblygiadau blaenllaw ym maes tirwedd a lles.

- Gwybodaeth fanwl am ystod o ddamcaniaethau, cysyniadau ac egwyddorion arbenigol y tu ôl i gynllunio a dylunio tirwedd hudolus.

- Gwybodaeth fanylach am y prif ddulliau ymchwil sydd ar gael o ran y cysylltiadau rhwng tirwedd a lles, a’r cyfleoedd ar gyfer hyfforddiant.

- Arbenigedd mewn dulliau ymchwil a'r gallu i ddangos creadigrwydd wrth gymhwyso sgiliau arbenigol yn ymarferol o fewn prosiectau ymchwil bywyd go iawn.

- Y gallu i gyfathrebu'n effeithiol wrth ddatblygu a chyflwyno canfyddiadau i ystod o wahanol gynulleidfaoedd.

Rwyf bellach yn gweithio yn y Ganolfan Ymchwil Iechyd Byd-eang ym Mhrifysgol Caeredin ac rwyf wrth fy modd. Mae'r maes hwn yn datblygu’n barhaus ac yn rhoi llawer o foddhad. Byddaf i ffwrdd ar fy ail daith i Frwsel ym mis Mawrth ar gyfer digwyddiad olaf prosiect ymchwil y bûm yn gweithio arno.