James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Griffith Jones Llanddowror

Cymdeithas Hynafiaethau Sir Gaerfyrddin wnaeth y cais am gymorth i gyhoeddi’r llyfryn hwn, llyfryn sy’n astudiaeth ddwyieithog o gyfraniad Sir Gaerfyrddin i wraidd a thwf Anghydffurfiaeth yn y sir a thrwy Gymru. Canolbwyntir yn bennaf ar fywyd a gwaith Griffith Jones, gŵr y cafodd ei ddisgrifio fel ‘Cymro mwyaf y ddeunawfed ganrif’, a’i ysgolion cylchynol yn hollbwysig yn yr ymdrech i wneud Cymru yn genedl lythrennol ac yn fodd i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw. Cyfeirir hefyd yn y gyfrol at waith a chyfraniad Madam Bevan, Peter Williams Thomas Charles, Dafydd Charles ac eraill, a’i nod yw dangos gwaddol anghydffurfiol y sir yn ogystal â chreu diddordeb ymysg darllenwyr y mae’r hanes yn newydd iddynt. Mae’r llyfryn yn rhan o brosiect ‘Goleuni Sir Gar’, sy’n ceisio hyrwyddo hanes llenyddol, cymdeithasol a diwylliannol yr ardal, ac yn ôl yr Athro D Densil Morgan, mae’r gyfrol hon “yn gyfraniad amhrisiadwy i’r gwaith hwnnw”.