James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Molly Elizabeth James

Derbyniais grant hael gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i gefnogi fy astudiaethau ym Mhrifysgol Rhydychen. Llwyddais I gwblhau MSc mewn Newid a Rheolaeth Amgylcheddol  gan astudio modiwlau ar gyfathrebu newid hinsawdd ac economeg ecolegol. Roedd fy nhraethawd hir yn edrych ar ganfyddiadau'r cyhoedd a'r agweddau cymdeithasol tuag at ‘direct air capture’, technoleg tynnu carbon, yng Nghymru a Lloegr. Bûm yn cynnal grwpiau ffocws cyhoeddus a chyfweliadau lled-strwythuredig i ddeall sut mae pobl yn rhagweld y bydd technolegau hinsawdd yn gweithredu mewn dyfodol sero net.

Ers graddio, rwyf wedi gweithio mewn gwahanol grwpiau ymchwil yn yr Ysgol Daearyddiaeth a'r Amgylchedd, gan gynnal ymchwil ar dechnolegau hinsawdd a chyfranogaeth y cyhoedd drwy brosesau democrataidd. Dechreuais hefyd weithio mewn cwmni ‘dal aer uniongyrchol’ y bûm yn ffodus o’u cyfarfod drwy'r cyfweliadau ar gyfer fy nhraethawd hir. Rwy'n hynod ddiolchgar am y cyllid hael gan James Pantyfedwen a’m cynorthwyodd i fynychu a chwblhau'r cwrs hwn!