James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Seren Lloyd-Ellis

Caniataodd grant James Pantyfedwen i mi astudio ar lefel Meistr heb orfod poeni am fy ffioedd dysgu. Drwy gwblhau MSc mewn Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol rwyf wedi ennill llawer o sgiliau a fydd o fudd mawr i mi yn y dyfodol. Mae’r gallu i astudio ar lefel ôl-raddedig wedi fy ngalluogi i ddatblygu fy sgiliau dadansoddi beirniadol a chyfathrebu ymhellach, yn ogystal â fy ngallu i fynegi fy nealltwriaeth a’m barn fy hun o fewn y ddisgyblaeth. 

Fe wnaeth cwblhau fy mhrosiect ymchwil fy ngalluogi i wella fy sgiliau rheoli amser a threfnu gan fy mod yn gorfod cynhyrchu darn o waith manwl a beirniadol o fewn ffrâm amser byr. Mae’r gallu hwn i astudio ar lefel ôl-raddedig yn sicr wedi dyfnhau fy ngwerthfawrogiad a dealltwriaeth o droseddeg a chadarnhau fy angerdd am y ddisgyblaeth, yn enwedig astudio dedfrydau anghyfiawn.

Ar hyn o bryd, dwi ddim yn hollol sicr o’m cynlluniau gyrfa gan fy mod yn cymryd blwyddyn i ddathlu a myfyrio wrth deithio Awstralia. Ond, ar ôl dychwelyd i Gymru, rwy'n gobeithio dilyn gyrfa o fewn y system cyfiawnder troseddol, ac yn benodol, hoffwn ddeall mwy am sut y gallwn weithio i ddileu achosion o euogfarnau anghyfiawn ac eirioli dros y rhai sy’n cael eu heffeithio gan anghyfiawnderau o'r fath. Hoffwn ddiolch i'r Ymddiriedolaeth am ganiatáu i mi ddilyn fy astudiaethau mewn pwnc mor ddiddorol a gwerthfawr.