James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Kathryn Marie Edwards

Ym mlwyddyn olaf fy ngradd israddedig mewn Iaith a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Bangor cefais fy nghyflwyno i faes llenyddiaeth Saesneg yng Nghymru. Nid oeddwn wedi sylweddoli o'r blaen pa mor eang a datblygedig oedd y maes, a phenderfynais fy mod yn dymuno ymchwilio ymhellach ar lefel Meistr. Gyda chymorth ariannol Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, llwyddais i astudio gradd ôl-raddedig mewn Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Abertawe.

Fy ffocws drwy gydol fy astudiaethau oedd maes ysgrifennu Saesneg yng Nghymru, gan archwilio sut mae’r cysyniad o hunaniaeth yn cael ei ffurfio o fewn y maes hwn, darganfod llenorion benywaidd sy’n cael eu hanwybyddu a’u tangynrychioli mewn maes sydd eisoes yn cael ei esgeuluso a’i dangynrychioli, ac yn y pen draw cwblhau traethawd hir ar y syniad o gymuned a pherthyn o fewn llenyddiaeth Eingl-Gymreig yr 20fed ganrif. Llwyddais hefyd i archwilio llenyddiaeth Saesneg yn ehangach, gan astudio gweithiau Angela Carter yn ogystal ag edrych ar y modd y darlunir yr amgylchedd yn llenyddiaeth y 19eg ganrif.

Caniataodd y cwrs hwn i mi ganolbwyntio ar faes a oedd o ddiddordeb i mi heb gyfyngu’n ormodol. Yr wyf yn awr mewn sefyllfa dda i gamu tuag at fy nyfodol, ac yr wyf yn gobeithio cael gyrfa yn y maes llenyddol. Mae cefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wedi bod yn amhrisiadwy wrth gyrraedd y pwynt hwn a byddaf bob amser yn ddiolchgar.