James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Annell Dyfri

Yn ystod y flwyddyn academaidd ddiwethaf bûm yn astudio’r cwrs MA Newyddiaduraeth Darlledu yn adran JOMEC, Prifysgol Caerdydd. Yn wahanol i nifer o gyrsiau ôl-raddedig eraill, roedd y cwrs yn canolbwyntio’n fwy na heb ar ddatblygu sgiliau ymarferol y myfyrwyr. Roeddwn yn mynychu darlithoedd a gweithdai yn ddyddiol, gan ddysgu pob math o sgiliau trosglwyddadwy i’r byd gwaith megis golygu, ysgrifennu sgript, darlledu, chwilio am straeon a throsleisio. Yn sicr cefais flas ar y byd darlledu wrth astudio’r cwrs a chefais gyfle i weithio gyda gweithluoedd gwahanol yn ystod fy nghyfnodau o brofiad gwaith. Ymhlith y sefydliadau a chwmnïau y cefais y cyfle o weithio iddyn nhw yr oedd ITV Cymru, BBC Cymru ac S4C. Bu’r profiadau hyn o gryn fudd i mi gan roi cyfle i mi ymarfer y sgiliau a ddysgais o fewn cyd-destun Cymraeg a Chymreig.

Wrth astudio’r radd llwyddais i greu cysylltiadau amrywiol wrth fynychu gwahanol ddigwyddiadau yn allgyrsiol. Rwyf bellach yn gyflogedig gan BBC Cymru, wedi treulio cyfnod gyda’r rhaglen Newyddion a nawr yn gweithio i BBC Cymru Fyw yn ysgrifennu erthyglau a chreu deunydd digidol yn Gymraeg. Yn sicr bu derbyn yr arian yn gymorth aruthrol wrth astudio, yn enwedig gyda’r argyfwng costau byw. Fel un a oedd yn awyddus iawn i astudio yng Nghaerdydd, roedd derbyn y cymorth ariannol wedi sicrhau bod modd i mi wneud hynny. Fy ngobaith yw parhau yn y byd darlledu gan ddatblygu fy sgiliau ymhellach ym meysydd y cyfryngau llinol a digidol fel ei gilydd.