James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Ffion Evans

Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Dosbarth Cyntaf yn y Gyfraith a Gwleidyddiaeth, penderfynais fy mod eisiau parhau gyda fy astudiaethau ac es i ymlaen i astudio gradd LLM mewn Datganoli a Llywodraethiant. Roedd hyn oherwydd fy mod wedi mwynhau astudio modiwlau ar ddatganoli a’r effaith y mae wedi’i gael ar gyfraith a gwleidyddiaeth Cymru yn ystod fy ngradd is-raddedig ac felly yn awyddus i ehangu fy nealltwriaeth o’r maes. Oherwydd cyfraniad hael Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, cefais gyfle i barhau gyda’m hastudiaethau yn y maes.

Fe wnes i fwynhau’r cwrs yn fawr gan gael cyfle i ddysgu ymhellach am drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig ac am ddatganoli yng Nghymru, a hynny drwy bersbectif gwleidyddol yn ogystal â chyfreithiol. Penderfynais ddewis modiwlau oedd yn ffocysu’n benodol ar y sefyllfa yng Nghymru a chredaf fy mod wedi ehangu fy nealltwriaeth o ddatganoli yng Nghymru yn sylweddol. Yn ychwanegol, cefais gyfle i ddysgu am bynciau oedd yn gwbl newydd i mi megis polisi cyhoeddus yng Nghymru. Bu i mi hefyd gwblhau traethawd hir ar addysg gyfreithiol ddwyieithog ym mhrifysgolion Cymru a’r camau y gellid eu cymryd er mwyn datblygu’r ddarpariaeth. Roedd y cwrs felly’n amrywiol ac yn hynod o ddifyr.

Rwy’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y cyfraniad tuag at fy ffioedd dysgu gan fy mod wedi elwa’n fawr o ddilyn y cwrs. Rwyf bellach wedi cael swydd dros dro yng Ngwasanaeth Democratiaeth Cyngor Gwynedd ond yn gobeithio cymryd ychydig o amser i ffwrdd i deithio yn ystod y flwyddyn nesaf. Rwy’n sicr bod yr hyn a ddysgais yn ystod fy nghwrs Meistr wedi bod yn fanteisiol wrth i mi ymgeisio am fy swydd bresennol ac yn gobeithio y bydd yr un mor ddefnyddiol wrth i mi ail-ddechrau ymgeisio am swyddi ar ôl dychwelyd adref! Hoffwn felly ddiolch yn fawr i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am roi’r cyfle hwn i mi.