James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Ryan Smith

Roedd derbyn ysgoloriaeth oddi wrth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn drawsffurfiol i fy mhrofiad o addysg ôl-raddedig. Gyda'i chefnogaeth, cwblheais MPhil mewn Cymdeithaseg ym Mhrifysgol Caergrawnt.

Manteisiais ar y cyfle hwn i ddyfnhau fy nealltwriaeth o’r modd y mae pwerau cymdeithasol yn effeithio ar fynediad pobl at gyfleoedd, adnoddau a phŵer. Yn ogystal, gwnaeth yr ysgoloriaeth fy ngalluogi i roi'r hyn roeddwn i wedi'i ddysgu ar waith: cefais fy ethol yn Swyddog Lles yng Ngholeg Darwin a gweithiais yn galed i wneud y Coleg yn lle tecach. Roeddwn yn fentor i fyfyrwyr o gefndiroedd ehangu cyfranogiad, a threfnais ddigwyddiadau yn ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol.

Canolbwyntiais yn fy ymchwil ar sut mae dosbarth cymdeithasol yn dylanwadu ar iechyd meddwl. Dangosodd dadansoddiadau ystadegol fod dosbarth cymdeithasol yn effeithio’n sylweddol ar afiechyd meddwl yn Ne Cymru. Yna, ceisiais ddeall hyn yng nghyd-destun profiadau dyddiol pobl gan gynnal gwaith maes. Cadarnhawyd bod amgylcheddau cymdeithasol ac economaidd yn cael effaith enfawr ar les emosiynol. Canfyddiad allweddol yr ymchwil yw bod rhaid i ni symud y drafodaeth ar iechyd meddwl oddi wrth y cyfrifoldeb ar unigolion a thuag at yr achosion gwraidd, h.y., anghydraddoldebau cymdeithasol.

Mae'r profiad hwn wedi cadarnhau pa mor bwysig yw hi fod academia yn wirioneddol gynrychioliadol o'r byd y mae'n ceisio ei ddeall. Edrychaf ymlaen at wneud cais am PhD ac rwy'n gobeithio, wrth i amser fynd heibio, y bydd mwy o bobl dosbarth gweithiol yn cymryd rhan mewn addysg ôl-raddedig ac yn gwneud cyfraniadau hanfodol i’r byd academaidd. Diolch o galon i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am barhau i wireddu breuddwydion pobl led Cymru.