James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Rebekah Jane Smethurst

Rwy’n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y grant a dderbyniais i  astudio fy nghwrs Meistr mewn Diwinyddiaeth rhwng 2020-2023. 

Yn ystod y cwrs, cefais gyfle i edrych ar sawl agwedd ar weinidogaeth plant, pobl ifanc a theuluoedd yn yr eglwys trwy astudio llawer o fodiwlau gwahanol ac ysgrifennu traethawd hir. Roedd fy nhraethawd hir yn ymwneud â’r genhedlaeth goll o bobl ifanc (11-18 oed) mewn eglwysi Bedyddiedig ledled Cymru, ac yn edrych ar sut y gall eglwysi gefnogi plant yn natblygiad eu ffydd. Ar ben hynny, bu’n gymorth i ddarganfod beth all eglwysi ei wneud i annog pobl ifanc i aros mewn cyswllt â chymuned o bobl yr eglwys trwy gydol eu hoes. Roedd y gwaith ymchwil yn canolbwyntio’n benodol ar ddarganfod gan blant a phobl ifanc sy’n mynychu’r eglwys beth sy’n dod â nhw yno a beth yn eu barn nhw all yr eglwys ei wneud i’w cefnogi ar daith ffydd. Un casgliad allweddol ddaeth o’r ymchwil oedd eu bod eisiau gweinidogaethau cymunedol a rhyng-genhedlaeth o fewn y bywyd eglwysig.

Mae’r grant hwn wedi fy ngalluogi i astudio maes gweinidogaeth rwy’n angerddol amdano, a’m helpu i feddwl am yr hyn y gall yr eglwys wneud heddiw ac yn y dyfodol i fireinio rhai o’r ffyrdd o edrych ar weinidogaeth plant a theuluoedd. Diolch i James Pantyfedwen am y grant sydd wedi fy ngalluogi i astudio'r radd Meistr hon mewn Diwinyddiaeth.