James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Connor O'Brien

Gan mod i’n dod o gefndir economaidd isel, byddai wedi bod yn anodd iawn fforddio’r gost enfawr o ddysgu ar lefel uwchraddedig heb gefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Gyda chymorth y grant llwyddais i astudio Cwrs Ymarfer Cyfreithiol LLM ac rwyf bellach gam yn nes at wireddu fy mreuddwyd o ddod yn gyfreithiwr cymwysedig.

Gellir dadlau mai'r cwrs hwn oedd fy mhrofiad mwyaf heriol erioed. Roedd rhaid i mi weithio oriau hir trwy gydol yr wythnos ac ar benwythnosau. Darllenais ac anodi miloedd o dudalennau a sefyll 26 arholiad yn Ionawr a Chwefror yn unig. Ond oherwydd cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth roeddwn yn gallu canolbwyntio ar fy nghwrs yn unig tan yr haf, gan ganiatáu i mi ennill y radd orau bosibl.

Gwthiodd y cwrs fi i eithaf fy ngallu, a’m gorfodi i ddatblygu’n academaidd, yn broffesiynol ac yn bersonol. Roedd y sgiliau a ddatblygais a'r wybodaeth a gefais nid yn unig wedi fy helpu i ennill graddau gwell, ond hefyd wedi cynyddu fy nghyflogadwyedd a'r tebygolrwydd o lwyddo. Cefais gyfle i ddysgu gan ymarferwyr profiadol a helpodd i arallgyfeirio ac addasu fy set sgiliau er mwyn ffynnu mewn amgylcheddau gwaith cystadleuol. Oherwydd hyn, rwyf wedi llwyddo i sicrhau rôl paragyfreithiol o fewn y cwmni cyfreithiol mwyaf yng Nghymru, Hugh James.

Heb gefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, fyddwn i ddim lle rydw i heddiw. Mae eu cefnogaeth wedi rhoi cyfleoedd i mi ennill gwybodaeth a phrofiad gwerthfawr a fydd yn hybu fy ngyrfa yn y gyfraith. Edrychaf ymlaen at y dyfodol lle gallaf gyflawni cytundeb hyfforddi a chymhwyso fel cyfreithiwr, breuddwyd na fyddai’n bosibl heb grant yr Ymddiriedolaeth.