James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Alaw Mair Williams

Yn dilyn graddio o Brifysgol Caerdydd gyda gradd Dosbarth Cyntaf mewn Cymraeg a’r Gweithle Proffesiynol, penderfynais barhau i astudio cwrs MA Ysgrifennu ar gyfer y Sgrin ym Mhrifysgol De Cymru. Roeddwn i wedi mwynhau astudio modiwlau megis Ysgrifennu Creadigol a Sgriptio ar fy nghwrs israddedig a rhain oedd wedi fy annog i barhau gyda chwrs oedd yn caniatáu i mi gael y cyfle i fod yn greadigol. 

Roedd y cwrs yn caniatáu i mi ysgrifennu yn Gymraeg yn unigol, ac wrth weithio gyda fy nghyd-fyfyrwyr roeddem yn cydweithio yn Saesneg felly roeddwn i’n cael y cyfle i ymarfer fy ysgrifennu creadigol yn y ddwy iaith a fydd bendant yn gymorth wrth i mi fynd i’r byd gwaith. Yn ystod y cwrs roeddem ni’n cael profiadau eang wrth ysgrifennu sgriptiau ond hefyd yn cael bod yn rhan o’r cynhyrchu a chael mynd allan i ffilmio ffilm fer o’n dewis ni cyn gorffen gyda phrosiect unigol o ysgrifennu ffilm nodwedd.

Yn ogystal â hyn cawsom fynd ar gwrs sgriptio gyda Bad Wolf a chefais fynd ar brofiad gwaith i Boom Cymru a drwy wneud hyn rydw i wedi dysgu sgiliau gwerthfawr a fydd o fudd i mi yn y byd gwaith. Roeddem ni’n ffodus iawn o gael defnyddio offer y brifysgol megis camerâu ac offer sain ond roedd angen i ni ariannu rhai pethau ein hunain megis meddalwedd sgriptio, gwisg ar gyfer yr actorion a chostau teithio i’r mannau roeddem ni’n ffilmio felly yn bendant roedd derbyn Ysgoloriaeth James Pantyfedwen yn gymorth wrth i mi orfod talu am y pethau hyn.

Felly, oeddwn i’n ddiolchgar iawn i dderbyn y cymorth ariannol yma oherwydd mae wedi fy helpu ar hyd y flwyddyn i allu ariannu rhannau hanfodol o’r cwrs a gallu astudio pwnc rydw i’n ei fwynhau ac rydw i’n gobeithio mynd ymlaen i gael swydd yn y maes hwn.