James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Hazel Maria Foy

Rwyf wrth fy modd fy mod wedi gorffen y cwrs MA Celfyddyd Gain a Deialogau Cyfoes yng Ngholeg Celf Abertawe, ac wedi ennill Rhagoriaeth Dosbarth 1af ar lefel Meistr, yn enwedig o ystyried yr hinsawdd gymdeithasol a gwleidyddol yn ystod cyfnod y cwrs. Wedi byw ac astudio trwy gyfnod pandemig, effeithiau rhyfel ac argyfwng costau byw, ymddengys yn eironig ddigon mai dyma'r amser perffaith i fod yn astudio gradd Celfyddyd Gain, yn enwedig y cwrs 'Deialogau Cyfoes'. Lawer gwaith, bûm yn ystyried rhoi gorau i’r cwrs,  oherwydd costau byw a phryder fel arfer. Ond dewisais ymroi i’r cwrs, gan wybod fy mod yn ddigon ffodus i gael y cyfle i astudio a dysgu, a gyda chymorth grant Pantyfedwen, roedd yna ychydig yn llai o bwysau ariannol. Ni allaf ddiolch digon i chi. Caniataodd y cwrs i mi ffynnu yn yr amseroedd tywyllaf a gallu mynegi beth oedd yn digwydd yn y byd trwy fynegiant creadigol saff. Bellach, mae gen i’r offer angenrheidiol er mwyn cyflawni fy nod proffesiynol fy hun, gan barhau i godi ymwybyddiaeth am ein planed.