James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Liam Beardmore

Gyda chymorth grant gan Bantyfedwen, llwyddais i astudio ar gwrs MRes mewn Cemeg ym Mhrifysgol Durham. Drwy gydol y flwyddyn, bûm yn canolbwyntio ar ymchwilio i bentafluoropyridine, moleciwl bach ag adweithedd cemegol diddorol. Mae fy ymchwil yn adrodd am optimeiddio proses o baratoi fflworidau acyl o asidau carbocsilig a gyfryngir gan bentafluoropyridine mewn un cam. Roeddwn yn ddigon ffodus i allu cyhoeddi’r gwaith yn y cyfnodolyn Organic and Biomolecular Chemistry, ac rwyf newydd gael cadarnhad fy mod wedi pasio fy nhraethawd ymchwil gyda mân gywiriadau.

Mae astudio yn Durham wedi bod yn brofiad gwerth chweil ac roedd y cyfraniad ariannol gan yr Ymddiriedolaeth  yn help sylweddol i leihau baich y ddyled a chaniatáu i mi ganolbwyntio ar fy astudiaethau. Mae Durham yn gartref i adran gemeg arbennig, a thrwy astudio yno, dysgais lawer iawn am ymchwil cemegol a’r technegau sy’n cyd-fynd ag ef, a chael sylfaen dda i’m hymchwil yn y dyfodol.

Yn dilyn y flwyddyn yn Durham, mae fy niddordeb mewn cemeg organig wedi tyfu ymhellach ac rwyf bellach yn gwneud PhD ym Mhrifysgol Keele, ac yn canolbwyntio ar addasu deunyddiau bioddiraddadwy seliwlosig.

Diolch i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu cefnogaeth ariannol.