James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

James McMillan

Yn yr ysgol, yn enwedig o gwmpas cyfnod TGAU, roeddwn wedi diystyru fy hun fel rhywun na allai byth weithio ym maes mathemateg a gwyddoniaeth. Byddai gennyf bryder rheolaidd ynghylch gwersi pynciau STEM. Roedd mor rhwystredig, eisiau datrys problemau ond ddim yn teimlo'n ddigon digonol i ddefnyddio'r adnoddau oedd eu hangen. Yn 2020, pan ddaeth y pandemig, roeddwn i'n cwblhau gradd israddedig mewn Daearyddiaeth, ac er i mi ei fwynhau’n fawr, roeddwn i'n dal i deimlo bod rhywbeth ar goll. Yna, gwelais gwrs penodol yn cael ei hysbysebu yn Abertawe – cwrs trosi MSc Cyfrifiadureg . Achubais ar y cyfle i newid cyfeiriad, i gymryd risg a gwthio fy hun i faes newydd. Ond wrth gwrs, mae addysg yn y DG yn ddrud! Pan glywais am grant Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, cefais wir achubiaeth, ar adeg pan oedd dod o hyd i swyddi rhan amser yn anodd yn dilyn y cwtogi ar gyflogi mewn llawer o sectorau.

Caniataodd y grant hwn i mi ffynnu yn fy MSc a goresgyn pob math o rwystrau yr oeddwn  wedi eu gosod i mi fy hun. Mae fy myd bellach yn teimlo'n un heb gyfyngiadau, ac o'r herwydd mae fy awydd i greu newidiadau cadarnhaol yn un cryf. Rwyf wedi cael swydd yn un o'r cwmnïau gorau yn y wlad o fewn y sector ymgynghori ac archwilio. Teimlaf na fyddai hyn wedi bod yn bosibl heb y ffydd a ddangoswyd ynof gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, gan roi’r cyfle wedyn i mi gael ffydd ynof fy hun. Diolch yn fawr!