James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Greg Evans

Rwy’n ddiolchgar tu hwnt i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am gefnogi fy nghwrs Meistr mewn Hanes Prydain Fodern yng Ngholeg Sant Ioan, Rhydychen. Roedd y cwrs yn hynod o amrywiol ac archwiliadol, wedi’i ddysgu gan diwtoriaid ysbrydoledig a wthiodd fy meddwl y tu hwnt i’r hyn yr oeddwn yn ei ddisgwyl hyd yn oed. Derbyniais radd rhagoriaeth am fy nhraethawd ymchwil ‘Planning By the Planned-For: Cwmbran New Town, 1949-1970’. Ac roedd y mwynhad yn ymestyn y tu hwnt i’r cwrs ei hun - rwyf wedi cyfarfod â phobl anhygoel o bob rhan o'r byd a chael llawer o hwyl yn y broses.

Rwyf nawr yn dechrau swydd gyda’r Gwasanaeth Sifil, lle rwy’n gobeithio cyfoethogi fy nealltwriaeth o lunio polisïau ledled Cymru a’r DG.

Roedd cyllid yr Ymddiriedolaeth yn rhan bwysig o’m mwynhad yn Rhydychen, a hoffwn ddiolch o galon i bawb a fu’n gyfrifol am gynnig y gefnogaeth hael.