James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Nye Michael

Cwblheais fy ngradd Meistr mewn Hanes Economaidd a Chymdeithasol ym Mhrifysgol Rhydychen. Cefais flas arbennig ar astudio pynciau fel hanes economaidd Tsieina - cyfle gwych i ddysgu am bŵer mwyaf newydd y byd - ac yn arbennig y modiwl 'Marwolaeth Breuddwyd', yn edrych ar ddemocratiaeth gymdeithasol ym Mhrydain ar ôl 1945. Cefais gipolwg ar hanes y wladwriaeth les ym Mhrydain (gan gynnwys cyfraniad y gŵr o’r un enw â mi!) ond mae'n debyg mai fy hoff bwnc oedd yr un yn astudio sut mae polisi'r llywodraeth wedi methu gwledydd a rhanbarthau'r Deyrnas Gyfunol y tu allan i Lundain a'r de.

Rwyf bellach wedi dechrau gweithio fel athro Mathemateg dan hyfforddiant gyda Teach First, elusen sydd wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb addysgol, yn Hull. Mae wedi bod yn gyfnod eithaf dwys, ond un sy’n rhoi boddhad mawr!

Diolch yn fawr am holl gefnogaeth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wrth i mi astudio fy ngradd Meistr.