James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Fedyddiedig y Tabernacle, Merthyr Tudful

Roedd Eglwys Fedyddiedig y Tabernacle ym Merthyr Tudful yn dymuno gwneud yr ardal gymunedol yng nghefn yr eglwys yn ofod diogel a defnyddiol ar gyfer gweithgareddau cymunedol. Er mwyn gwneud hyn, rhaid oedd ailosod fframiau pren tair ffenestr, gorchuddio ac insiwleiddio dwy wal fewnol, a thynnu i lawr wal y fynedfa a'i hailadeiladu.

Erbyn diwedd 2023, fel y dengys y lluniau hyn, mae'r waliau wedi'u gorffen a'r ffenestri wedi'u gosod gan wneud y festri'n llawer cynhesach a mwy diogel. Mae’r dosbarthiadau, cyfarfodydd y sgowtiaid, y boreau coffi a’r casgliadau ar gyfer y digartref i gyd wedi ailddechrau ac mae’r eglwys unwaith eto yn ceisio gwasanaethu’r gymuned ac yn darparu gofod diogel a gwerthfawr.