James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

All Saints Church, Y Drenewydd

Roedd cyflwr yr hen adeilad rhestredig hwn, a godwyd gan Syr Pryce Jones ym 1890, yn dirywio a phenderfynodd yr eglwys fynd ati i gwblhau prosiect sylweddol. Roedd hyn yn cynnwys dymchwel yr estyniad presennol a chodi estyniad unllawr newydd ar gyfer toiledau a chegin hygyrch a chawod, gwella’r mynediad i’r brif fynedfa, creu gofod penodol gyda lloriau addas ar gyfer gwahanol weithgareddau, sgriniau, goleuadau a gwres, adnewyddu ffabrig presennol yr eglwys, ac addurno'n briodol.

Cymerodd y prosiect hwn fisoedd lawer i'w gwblhau, roedd angen llawer o waith codi arian ac ymrwymiad gan yr aelodau, ond mae'r fideo isod yn dangos yr hyn a gyflawnwyd. Yn ôl un o arweinwyr yr eglwys, “mae gennym bellach adeilad gwirioneddol fendigedig a fydd yn gaffaeliad enfawr i bobl y Drenewydd i’w ddefnyddio am flynyddoedd lawer i ddod”.

 

https://youtu.be/Tw6gwjoa1s8?si=5h0KM1irpaJwAvSM