James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Ss David Lewis a Francis Xavier ym Mrynbuga

Rhwng 2017 a 2019, bwriwyd ati i gwblhau cam cyntaf y gwelliannau i Eglwys Ss David Lewis a Francis Xavier ym Mrynbuga. Roedd hyn yn cynnwys atgyweiriadau hanfodol i’r waliau tu allan, gwaith ar y porth gogleddol, gosod ramp a thoiled hygyrch, a chreu capel newydd. .Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach daeth yn amser chwilio am gyllid ar gyfer ail gam y gwaith a denodd y prosiect lawer o gefnogaeth gan y gymuned leol, Cyngor Tref Brynbuga, a sefydliadau cyllido megis Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Codwyd llawer o arian yn lleol hefyd gan arwain at ganlyniad llwyddiannus a’r teimlad fod y plwyf yn wirioneddol “berchen” ar y trawsnewid a welwyd yn yr eglwys.

Roedd yr ail gam yn cynnwys gwaith mewnol yn bennaf. Cwblhawyd y gwaith i rwystro dŵr rhag dod i mewn, cafwyd gwared o’r paent emwlsiwn anhydraidd a oedd yn dal lleithder yn y waliau a gosod yn ei le orchudd wal priodol sy’n atal lleithder rhag cronni y tu ôl i'r paent; roedd y system goleuo yn 50 mlwydd oed ac yn ddrud i'w redeg felly gosodwyd goleuadau LED newydd fydd yn lleihau costau ynni; a thynnwyd y carped treuliedig a gosod carped newydd sy’n caniatáu i'r llawr pren anadlu a lleihau'r lleithder sy'n cael ei ddal ar waelod y waliau. Mae'r gwaith wedi cael gwared ar yr holl weddillion asbestos oedd ar ôl yn yr adeilad; mae’r gwaith celf newydd yn adfer agwedd weledol yr eglwys, gan ganolbwyntio’r sylw ar y prif allor; ac mae camau wedi eu cymryd i blannu planhigion sy’n denu gwenyn a phryfed yn y fynwent y tu ôl i'r eglwys er mwyn gwella’r bioamrywiaeth lleol. Mae’r eglwys wedi dechrau datblygu’r safle fel hafan i fywyd gwyllt a hafan croesawgar i bobl leol.

Mae’r gwaith adnewyddu ac adfer mewnol yn sicr wedi cyfoethogi’r eglwys fel man gweddïo a myfyrdod tawel i bobl leol ac ymwelwyr. Mae’r eglwys bellach yn cynnig gofod diogel i bawb sy’n mynd i mewn iddi, yn enwedig gyda gwelliannau i’r lloriau. Mae’r gwaith addurno o amgylch y brif allor yn adfer amgylchedd gweledol yr eglwys a’r ffresni y byddai cynulleidfaoedd wedi sylwi arno yng nghanol y 19eg ganrif – ac roedd hi’n arbennig o gyffrous darganfod o dan haenau o baent luniau o angylion yn chwarae offerynnau cerdd a’u gweld yn cael eu hadfer. Mae'r dechnoleg ddiweddaraf hefyd bellach yn ei lle i ffrydio gwasanaethau.

“Diolchwn i bawb am eu cefnogaeth i’r holl waith a gallwn yn awr fod yn falch o hyrwyddo ein heglwys fel canolfan pererindod i Dewi Sant Lewis.”