James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys St Denys, Lisvane

Penderfynodd yr eglwys leol hon yn Lisvane ddymchwel yr eiddo a ddefnyddiwyd ganddynt fel gofod ychwanegol ar gyfer gweithgareddau eu heglwys ac ailadeiladu gofod newydd mwy hyblyg a phwrpasol gyda phroffil amgylcheddol hirdymor gwell. Cynigiwyd grantiau gan Gyngor Caerdydd, trwy’r Welsh Church Act, y Benefact Charity, Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen a Chronfa Genhadol Esgobaeth Llandaf. Trosglwyddwyd allweddi’r adeilad i’r ficer gan yr adeiladwyr ar 13 Mawrth 2023, a bydd yn cael ei alw’n Tŷ Price, ar ôl y teulu Price, a roddodd eu tŷ i’r Eglwys yn wreiddiol.

Mae’r adeilad wedi’i ddefnyddio ar gyfer gwaith swyddfa, Cinio Eglwys gyda thua 60 o bobl yn bresennol, a Modiwl Hyfforddiant Diogelu ar gyfer yr Eglwys yng Nghymru yn Ne Ddwyrain Cymru gyda thua 50 o bobl yn mynychu. Mae’r gweithgareddau ieuenctid, sy'n cael eu cynnal drwy'r wythnos ac ar ddydd Sul o dan arweiniad ein gweithiwr ieuenctid cyflogedig, Ali Jensen, yn profi'n boblogaidd iawn gyda'r bobl ifanc.

Mae maint yr eiddo yn cynnig llawer o bosibiliadau, i wasanaethu anghenion ysbrydol, cymdeithasol a phersonol y cymunedau lleol. Mae barbeciw agored yn cael ei drefnu ar ôl Ffair Lisvane, yn dilyn gwasanaeth ar y cyd gydag Eglwys y Bedyddwyr yn lleol. Mae rhywfaint o waith tirlunio yn cael ei wneud ar yr eiddo, plannu ecolegol gynaliadwy, a fydd yn hawdd ei gynnal a'i gadw ac o fudd i'r bywyd gwyllt.

Mae aelodau’r eglwys am ddiolch i bawb sydd wedi helpu i gefnogi’r prosiect yn Church House, sef Tŷ Price, St Denys, a’i alluogi i fod yn ariannol ddiogel ac o safon uchel. Bydd hyn yn helpu i sicrhau bod y gofod yn addas i wasanaethu anghenion pob rhan o'r gymuned leol am flynyddoedd i ddod.