James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Efengylaidd y Tabernacle, Caerdydd

Roedd gwaith atgyweirio i adeilad rhestredig Gradd II Eglwys y Tabernacle Caerdydd wedi'i gynllunio ers sawl blwyddyn, yn dilyn problemau hanesyddol o adfeiliad a dŵr. Mae’r gwaith atgyweirio sydd bellach wedi’i gwblhau yn cynnwys cam cyntaf y prosiect, yn waith ar  lefelau uchaf y ffasâd, gyda gofynion cymhleth o ran sgaffaldau. Bydd camau diweddarach y gwaith yn cynnwys ailbwyntio, atgyweirio cerrig a gosod plwm dros agoriadau; bydd angen atgyweirio'r tu mewn yn helaeth hefyd maes o law yn dilyn difrod dŵr.

Dechreuodd y gwaith ym mis Ionawr 2023 ac roedd wedi'i gwblhau fwy neu lai erbyn diwedd mis Ebrill. Hwyluswyd y gwaith gan dywydd eithriadol o dda. Cyfrannwyd y rhan fwyaf o’r gost gan aelodau Tabernacle Caerdydd, ond derbyniwyd grantiau hefyd gan Cadw ac Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Mae yna dipyn o ddisgwyl wedi bod i’r gwaith gael ei gyflawni, er mwyn atal difrod sylweddol a pharhaus i'r adeilad hanesyddol. Eisoes mae’n amlwg fod yna dipyn llai o broblemau gyda ffrynt yr adeilad, ac mae hyn wir yn anogaeth i fwrw ymlaen gyda mwy o waith er mwyn hwyluso defnydd o’r adeilad a’r capel cyfagos.

Dymuna'r eglwys gydnabod cefnogaeth yr Ymddiriedolaeth wrth ddyfarnu'r grant. Mae hyn wedi galluogi cynnal y safonau gorau o atgyweirio traddodiadol a hyrwyddo ailddefnyddio'r adeilad. Gwerthfawrogwyd yn fawr hefyd gefnogaeth ac anogaeth yr Ymddiriedolaeth ynghanol yr oedi a achoswyd gan y pandemig a’r ansicrwydd dilynol o fewn y diwydiant adeiladu. Diolch yn fawr.