James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys St Hilary Poiters, Y Bontfaen

Mae’r eglwys yn St Hilary yn ganolbwynt i’r gymuned ond, ychydig amser yn ôl, roedd mewn perygl o gau oherwydd bod y tŵr wedi dirywio gymaint. Roedd yr ardal o’i gwmpas a rhan o du mewn yr eglwys wedi’i gau i ffwrdd, a’r defnydd cymunedol yn gyfyngedig iawn o ganlyniad.

Cafwyd grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen tuag at yr atgyweiriadau, a llwyddwyd i wneud y mynediad drwy’r tŵr yn ddiogel, gwneud y to a lloriau’r siambr drwy’r tŵr yn strwythurol ddiogel, atgyweirio gwaith carreg i atal unrhyw berygl ac ailbwyntio i leihau treiddiad dŵr glaw. Mae'r gwaith i gyd bellach wedi'i gwblhau, yr eglwys eto'n weithredol a’r adeilad yn cael ei werthfawrogi gan yr amrywiol grwpiau sy'n ei defnyddio.

Bellach, gyda mynediad at y clochdy, mae yna ganu clychau gan rai o’r eglwys hon ac eglwysi ac eglwysi cadeiriol eraill. Mae'r holl strwythur allanol yn ddiogel a gall y grwpiau gwirfoddol ail-ddechrau cynnal a chadw'r tiroedd. Mae'r côr, gwasanaethau teulu, dangosiadau ffilm, a digwyddiadau cymunedol eraill i gyd wedi ail-ddechrau yn ogystal â’r  llyfrgell a'r banc bwyd.

Mae teulu’r eglwys a’r gymuned leol yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen a sefydliadau eraill am eu cefnogaeth er mwyn gofalu fod y darn pwysig hwn o’r gymuned eto’n lle diogel a chroesawgar.