Eglwys Fedyddiedig Llaneirwg
Cwblhawyd y prosiect i adnewyddu’r capel ym mis Hydref 2022 ac mae’r gwaith wedi bod o fudd enfawr i bawb sy’n mynychu gwasanaethau. Ar wahân i gael gofod cynnes wedi'i gynhesu'n effeithiol ac yn rhydd o ddrafftiau, mae'r rhai sy'n mynychu bellach yn gallu eistedd yn gyfforddus. A’r cyfan yn llawer mwy hygyrch, yn enwedig i'r rhai sy'n profi problemau symudedd.
Roedd y gwaith yn cynnwys:
- Cael gwared ar y seddau gwreiddiol a osodwyd ar lawr gwaelod y capel a lefelu'r llawr
gymaint ag oedd yn bosibl; - Newid boeler 50 oed ac uwchraddio'r rheiddiaduron yn y capel;
- Gosod carped, cadeiriau a chlustogau newydd (ar gyfer y seddau sy’n weddill ar y llawr
uchaf); - Gosod goleuadau LED yn y capel;
- Newid y system sain yn y capel ac uwchraddio'r system daflunio.
Rydym wrth ein bodd gyda’r canlyniad ac yn falch iawn ein bod wedi gwneud y gofod yn addas i genedlaethau’r presennol a’r dyfodol.