James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys San Pedr, Y Rhŵs

Ar ôl blynyddoedd o gynllunio a chodi arian, mae ein hadeilad newydd a’r estyniad - The Hub @ St Peters - o’r diwedd yn realiti ac yn cymryd ei le yng nghanol ein pentref. Mae’r Hwb bellach yn gartref i fwy a mwy o weithgareddau a digwyddiadau yn gyson ac mae’r niferoedd sy’n defnyddio’r adeilad wedi parhau i dyfu.

Un o’r datblygiadau newydd yw’r Caffi Cymunedol, a gefnogir gan Purple Shoots (www.purpleshoots.org) – mae ar agor bob dydd Mawrth ar hyn o bryd ac yn darparu profiad gwaith i oedolion ag anawsterau dysgu. Mae Caffi Chwarae llwyddiannus iawn yn cael ei gynnal mewn ardal ar wahân, ochr yn ochr â’r prif gaffi, ac wrth i’r oriau agor gynyddu, bydd hwn yn ddigwyddiad wythnosol yn ystod y tymor. Mae Caffi Dementia newydd ddechrau bob bore Mawrth ym mhrif adeilad yr eglwys: caiff hwn ei redeg gan asiantaeth gofal lleol a’r gobaith yw y bydd ar gael i bawb i alw heibio. Yn y prif ofod cyhoeddus wrth ymyl y caffi bydd cyrsiau newydd yn cael eu trefnu, megis  cwrs cyfrifiadurol 4 wythnos, neu gwrs ar arian a chyllid gan Christians Against Poverty.

Mae’r gofod estynedig yn golygu ein bod yn gallu cynnig mwy o leoedd yn ein grŵpiau plant ar ddyddiau Llun. Yr un modd, mae’r digwyddiadau Messy Chuch yn tyfu o ran niferoedd, gyda 62 o bobl yn mynychu’r un diweddaraf. Mae'r Côr Cymunedol wedi ailddechrau ac yn mwynhau defnyddio’r gofod newydd. Gyda chegin o safon dda, gallwn gynnig mwy o letygarwch mewn gwasanaethau ac rydym yn edrych ymlaen at y Swper Cynhaeaf - heb sôn am roliau cig moch fydd yn cael eu cynnig i bawb yn ein Gwasanaeth Pob Oed nesaf! Rydym hefyd yn gallu cynnal Ffair Nadolig eleni ac mae nifer o grefftwyr lleol wedi archebu lle gyda ni i hyrwyddo eu cynnyrch.

Cynhaliwyd sesiwn flasu i’r Grŵp Ieuenctid ar ei newydd wedd, a denwyd 19 o bobl ifanc - bydd hyn nawr yn digwydd bob nos Wener yn ystod y tymor. Mae ein gofod cynyddol yn golygu y gallwn nawr gynnig badminton, pêl-droed mini a hoci awyr yn ogystal â'r gemau bwrdd arferol, heb son am allu bwydo’r bobl ifanc ar eu cythlwng!

Gobeithiwn fod hyn yn rhoi blas o'r hyn sy'n digwydd yn yr Hwb. Gweithiodd pawb mor galed i wireddu’r freuddwyd (gan godi dros £650,000), a rhaid ymrwymo nawr i sicrhau fod yr Hwb yn mynd o nerth i nerth. Mae'n daith hynod o gyffrous.