James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys y Santes Fair Aberhonddu

Mae Eglwys y Santes Fair yn adeilad rhestredig yng nghanol Aberhonddu gyda Thŵr Buckingham yn y pen gorllewinol, yn gartref i gloc a chlychau’r dref. Roedd aelodau’r eglwys yn awyddus i newid yr hen foeler am un mwy effeithlon ac amgylcheddol effeithiol er budd pawb sy’n defnyddio’r adeilad yn ystod yr wythnos.

Mae Caffi’r Tŵr ar agor o fewn yr eglwys o ddydd Llun i ddydd Sadwrn o 9.00 tan 4.00 bob dydd, yn darparu lleoliad cynnes gyda staff yn cael eu cyflogi gan yr eglwys, ac mae pobl leol ac ymwelwyr o bob oed yn ymweld â’r caffi’n rheolaidd. Dilynir y Cymun Sul, am 9.30 y bore, gan wasanaeth eciwmenaidd anffurfiol, o'r enw Time Out. Cynhelir gwasanaeth Ewcharistaidd bob dydd Mawrth am 11.00 y bore, ac yna, am 6.00 yr hwyr, cynhelir cyfarfod o’r grŵp myfyrio. Ar nos Fercher am 7.30, ceir ymarfer côr lleol yn yr Eglwys. Yn ogystal, mae'r eglwys yn rhan o’r trefniant Mannau Cynnes yn ystod y cyfnod hwn o gostau ynni cynyddol.

Mae holl weithgareddau rheolaidd uchod yn dangos felly mor bwysig fu sicrhau bod system wresogi effeithlon a dibynadwy ar waith, ac mae cymorth grant Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, a phecynnau ariannu eraill, wedi bod yn werthfawr iawn iawn er mwyn gwireddu prosiectau o'r fath.

Diolch yn fawr iawn.