James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys y Santes Fair, Wenfô

Yn ystod misoedd cyntaf 2021, cynhaliwyd archwiliad ar Eglwys y Santes Fair yn Wenfô, ac awgrymwyd y dylid tynnu’r holl forter o Dŵr a Chyntedd Deheuol yr eglwys, glanhau’r holl uniadau ac adnewyddu’r gwaith pwyntio ar yr adeilad. Gyda chymorth cyfraniad yr Ymddiriedolaeth at gost y prosiect, mae’r gwaith bellach wedi’i gwblhau, a’r tŵr a’r porth wedi’u sefydlogi a’u hadfer. Mae’r prosiect wedi sicrhau defnydd cyson o’r eglwys a’r tir o’i chwmpas, gan yr aelodau a’r gymuned ehangach. 

“Ar ran ein cynulleidfa a phentref Wenfô, hoffwn ddiolch yn ddiffuant i’r Ymddiriedolaeth am eu haelioni wrth gefnogi’r prosiect hwn.” (Ray Harris, Trysorydd)