James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Dewi Sant, Caerdydd

Yn dilyn dau brosiect mawr i ail-doi’r adeilad a gosod boeler gwres canolog newydd, roedd Eglwys Dewi Sant yn awyddus i adnewyddu’r toiledau a gwneud yn siwr eu bod yn hygyrch i bawb. 

“Cychwynnwyd y gwaith ganol Mawrth 2022 trwy droi hen doiled y dynion i yn doiled i’r anabl sy’n cydymffurfio’n llawn â’r rheoliadau. Symudwyd ymlaen wedyn i newid toiled y menywod yn ddau doiled fyddai ar gael i bawb. Gorffennwyd y gwaith erbyn diwedd mis Mai 2022. 

Mae’n braf gallu adrodd fod y cyfleusterau wedi cael eu croesawu gan y plwyfolion a defnyddwyr eraill. Dywedodd un o’n plwyfolion ei bod hi’n hoffi’r cyfleusterau newydd gymaint y “gallai dreulio amser yno!”. A phan ail-gychwynnwyd y Coffi a Chlonc wedi’r cyfnod clo, aeth un person i ddefnyddio’r cyfleusterau a dod nôl i’r neuadd a chyhoeddi wrth bawb bod rhaid iddynt ymweld â’r toiledau cyn gadael! 

Felly, ar ran y Ficer, aelodau o’r Cyngor Plwyfol Eglwysig a’r plwyfolion, hoffem ddiolch yn fawr iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am gefnogi ein prosiect a sicrhau ei lwyddiant.”