James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant Donat, Abercynon

Roedd eglwys y plwyf yn Abercynon, dan arweiniad y ficer, y Parchedig Peter Lewis, yn awyddus i symud ymlaen gyda’u haddoliad a’u synnwyr o berthyn, a thrwy hynny, gweld yr eglwys yn tyfu. Eu gweledigaeth oedd creu hwb fyddai’n gyswllt â mudiadau a mentrau eraill, er mwyn ceisio codi pobl allan o dlodi, cydlynu gweithgareddau o fewn y gymuned, a dod â gobaith i bobl Abercynon.

Er mwyn creu y math yma o ganolfan, roedd angen cegin o safon broffesiynol a chaffi ar gyfer pob math o weithgareddau, ynghyd â gwell system glyweled yn yr eglwys. Mae'r prosiect wedi bod yn un llwyddiannus iawn; bellach gwelir rhwng 30 a 50 o blant yn mynychu'r Llanllanast misol, rhwng 15 a 25 o bobl ifanc yn eu harddegau yn mynychu'r Clwb Ieuenctid wythnosol, a grwpiau newydd yn cael eu sefydlu i geisio delio ar argyfwng costau byw, gan gynnig prydau poeth am ddim a chyrsiau cyllidebu.

“Heb y gefnogaeth ariannol, ni fyddai’r mentrau newydd hyn wedi bod yn bosibl, ac ni fyddai’r eglwys wedi symud ymlaen yn ein bywyd a’n cenhadaeth. Diolch am eich cefnogaeth”.