James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Fedyddiedig Efengylaidd Ebenezer, Abertawe

Penderfynodd aelodau Eglwys Ebeneser fod gwir angen adnewyddu ac ail-wneud neuadd a chegin yr eglwys, gan fod y ddau ofod mewn cyflwr mor wael. Mae’n eglwys weithgar dros ben, a chaiff yr adeilad ei ddefnyddio’n helaeth gan yr eglwys ei hun – ar gyfer gwasanaethau’r Sul ac Ysgol Sul, cyfarfodydd plant a phobl ifanc, Astudiaeth Feiblaidd, Cyrddau Gweddi, cyfarfodydd Dynion a Merched, Cyrsiau Christianity Explored, grŵp Mam a’i Phlentyn, prydau cymdeithasol, dosbarthiadau Saesneg i geiswyr lloches, Grwpiau Prentisiaid a gwasanaethau arbennig adeg y Pasg a’r Nadolig. “Rydyn yn eglwys efengylaidd Crist- ganolog, ac ry’n ni’n ddiolchgar iawn am yr adeiladau a’r gofod sydd gennym ni, a’r lleoliad arbennig gerllaw cannoedd o fflatiau myfyrwyr newydd sbon. Mae adnewyddu ein hadeiladau ar gyfer y dyfodol yn holl-bwysig er mwyn gallu croesawu a bwydo a darparu lle addas a chartrefol ar gyfer cyfeillgarwch.”

Fel y gwelir yn y ffotograffau, mae’r neuadd genhadol a’r gegin bellach wedi’u hadnewyddu’n llwyr, ac mae’r eglwys wedi trefnu Cinio Cynhaeaf arbennig i ddiolch a’u cysegru i waith Duw yn Abertawe.