James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Bryn Iwan, Caerfyrddin

Roedd aelodau Capel Bryn Iwan yn ymwybodol iawn fod eu cyfleusterau’n anaddas, gan fod y toiledau yng nghefn y fynwent heb unrhyw oleuadau trydan. Penderfynwyd felly codi arian i  ledaenu rhywfaint ar yr adeilad a chreu ystafell newydd fodern i’r toiledau a ramp pwrpasol. Mae manteision y prosiect bellach wedi eu gwireddu, ac mae gan y capel doiledau cyfleus, modern, glân, ac addas ar gyfer pawb gan gynnwys yr anabl a phlant. Hefyd mae yno ramp llydan newydd sy'n hwyluso mynediad di-drafferth i bawb. Ac roedd y cyfan yn barod ar gyfer Gwasanaeth Sefydlu’r Parch Gareth Ioan yn weinidog ar Bryn Iwan yn ogystal â Blaenycoed, Moriah Blaenwaun, a Nanternis. 

Mae'r festri wedi cael ei defnyddio hefyd gan y gymuned leol, gyda'r ffermwyr ifanc a'r aelwyd leol wedi cynnal cyfarfodydd, ac wrth eu boddau gyda’r cyfleusterau newydd! 

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am ei chefnogaeth hynod garedig sydd wedi helpu i gwblhau’r gwaith i gyd. Bu’r grant hwn, ynghyd â chefnogaeth grantiau eraill a chyfraniadau yr aelodau yn fodd i dalu am y costau i gyd.