James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys y Bedyddwyr Gilgal, Porthcawl

Adeiladwyd Eglwys y Bedyddwyr Gilgal, Park Avenue, Porthcawl ym 1922, pan welwyd fod cymuned yr eglwys wedi tyfu'n rhy fawr i'w hadeilad gwreiddiol mewn man arall yn y dref. Gyda chanmlwyddiant yr Eglwys yn prysur agosáu, cytunodd y grŵp presennol o aelodau i gychwyn ar brosiect sylweddol i foderneiddio’r adeilad a’i wneud yn addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain.

Dechreuodd y gwaith ym mis Mehefin 2021, a llwyddwyd i symud yn ôl i addoli yno ychydig cyn Pasg 2022 – ac mae’r aelodau wrth eu bodd gyda’r gwaith. Crëwyd man agored eang a hyblyg ar gyfer addoli a chymdeithasu; crewyd mynedfa wydr newydd o Park Avenue, caffi agored eang, balconi mewnol newydd a dau estyniad unllawr i’r adeilad yn gartref i doiledau a chegin hylaw. Mae'r hen gorau wedi'u tynnu, a gosodwyd cadeiriau cyfforddus yn eu lle yn ogystal â llawr newydd a gwres oddi tano.

“Trwy greu amgylchedd mwy agored, hygyrch a chyfeillgar i deuluoedd, rydym yn gobeithio gwella’r croeso a gynigir i grwpiau cymunedol o bob oed, yn ogystal â chyflawni ein nod o ‘adnabod Iesu’n well a’i gyflwyno’n well i eraill.’ Rydym wedi cynllunio nifer o ddathliadau arbennig yn ystod mis Mehefin ac edrychwn ymlaen at groesawu pobl i’r digwyddiadau yma neu i unrhyw un o’n gwasanaethau ar ddydd Sul neu gyfarfodydd canol wythnos.

Hoffem fynegi ein diolch i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y grant a dderbyniwyd tuag at gost y prosiect.”