James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Teilo Sant, Merthyr Mawr

Roedd aelodau Eglwys Teilo Sant, Merthyr Mawr, yn awyddus i osod cegin fach yn yr eglwys i ddarparu te a lluniaeth ysgafn i’r gynulleidfa ac ymwelwyr. Mae'r prosiect bellach wedi'i gwblhau, ac mae ansawdd y gwaith yn cael ei edmygu'n fawr.

Mae'r gegin fach eisoes wedi'i defnyddio i ar gyfer estyn cymdeithas y grŵp eglwys o tua 35 o bobl. Gan fod gennym ddŵr poeth ac oer, yn ogystal â pheiriant golchi llestri nawr, mae mor braf peidio â gorfod cario poteli dŵr trwm i’r eglwys a hambyrddau trwm o lestri budr adref, ac mae’n golygu y gallwn gynyddu defnydd yr eglwys a darparu lleoliad i uno a chefnogi’r gymuned leol. Bydd hyn o fudd i’r gynulleidfa, trigolion y pentref ac ymwelwyr. Rydym yn parhau i wella’r cyfleusterau yn yr eglwys gyda boeler a system wresogi newydd hefyd wedi’u gosod, yn ogystal â goleuadau newydd sydd wir yn dangos Sant Teilo ar ei orau. Y nod nawr yw cael toiled hygyrch i'r anabl a llwybr newydd at yr eglwys.

Rydym wrthi yn brysur yn cynllunio pob math o ddigwyddiadau codi arian a digwyddiadau cymdeithasol, ac yn falch iawn o gyhoeddi fod cyngerdd wedi'i drefnu i'w gynnal yn ein heglwys hardd ym mis Gorffennaf. Bydd hi mor braf gallu cynnig lluniaeth i'r rhai sy'n mynychu. Rydym yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu cyfraniad, cymorth sydd wedi helpu'n sylweddol i ddarparu a gosod y gegin fach hon.