James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Teilo Sant, Llandeilo Pertholau

Roedd cynulleidfa Eglwys Teilo Sant yn Llandeilo Pertholau ger y Fenni yn awyddus i uwchraddio eu cyfleusterau er mwyn eu gwneud yn hygyrch i bawb, a gwneud yr ystafell gyfarfod sydd ynghlwm wrth yr eglwys yn hygyrch i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Er bod y cyfleusterau presennol wedi bod yn ddigonol dros y blynyddoedd, sylweddolodd y Cyngor Eglwysig fod yna nifer cynyddol o unigolion llai abl yn mynychu addoliad a gweithgareddau eraill yn yr eglwys, a’i bod yn hen bryd gwneud gwelliannau. Penderfynwyd ar y cynllun Gwario Ceiniog ac anelu at godi £50,000 i gwblhau’r gwaith, a chyflawnwyd hyn trwy roddion aelodau a grantiau gan wahanol gyrff gan gynnwys Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Cafodd y cyfleusterau newydd ac Ystafell Tredillion ar ei newydd wedd eu hagor yn swyddogol ar Sul y Pasg gan Michael Davies, gŵr sy’n aelod cyson o’r gynulleidfa ac yn defnyddio cadair olwyn.