James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Fedyddiedig Ainon

Penderfynodd Eglwys Fedyddiedig Ainon yn Nhongwynlais y byddai’n braf trawsnewid neuadd yr eglwys er mwyn creu man cyfarfod mwy hyblyg, gyda chyfleusterau modern at ddefnydd yr eglwys a’r gymuned. Dechreuodd y gwaith adeiladu ym mis Mai 2021 ac fe’i cwblhawyd ym mis Mawrth 2022. Mae Hwb Cymunedol Ainon bellach wedi’i agor a chafwyd trafodaethau rhwng yr Eglwys, Cyngor Sir Caerdydd a Heddlu De Cymru i gytuno ar raglen lawn o ddigwyddiadau a gwasanaethau o fewn yr Hwb. Ar hyn o bryd, mae’r Hwb yn gartref i’r Ganolfan Ddosbarthu Banc Bwyd; Ton’s Tots – grŵp rhiant a phlentyn; Clwb Cinio – pryd poeth a chwmni i’r rhai 55 oed a hŷn; Dydd Mercher Llesiant – man diogel i’r rhai sy’n chwilio am gyfeillgarwch neu sgwrs; a ‘Cuppa with a Copper’ – cyfle i gwrdd a thrafod materion lleol dros baned gydag aelodau o’r Heddlu. Mae Cyngor Sir Caerdydd hefyd yn cynnig cyngor ariannol, cyngor ar fyw'n annibynnol, Clybiau Gwaith, Gwasanaethau Byw'n Dda, a Chymorth Digidol. 

Mae trafodaethau pellach ar y gweill hefyd er mwyn ehangu’r ddarpariaeth i gynnwys man casglu ailgylchu, banc dillad, sesiynau Bywydau Adferol ar gyfer y rhai sy’n cael trafferth wrth wyneb ysgariad neu dor-perthynas, cymorth ynglŷn â gwneud penderfyniadau wrth geisio byw’n iach a chynaliadwy, sesiynau ‘Men’s Sheds’ yn cynnig cyfeillgarwch a gweithgareddau i ddynion, a fforymau Tai Cymdeithasol a Thenantiaid Cyngor. 

Yn ôl arweinwyr yr eglwys, “ni fyddai dim o’r uchod wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth hael Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen. Diolch yn fawr am ein helpu ni i helpu eraill a gwneud gwahaniaeth i fywydau unigolion, teuluoedd a chymunedau. Mae gweld yr adeilad yn llawn pobl o bob oed ac o bob rhan o’r gymuned yn olygfa hyfryd, ac mae’n anhygoel gweld  effaith a dylanwad cael gofod newydd a hyblyg fel hwn. Diolch unwaith eto am eich cefnogaeth ariannol i Hwb Cymunedol Ainon, prosiect sydd wedi trawsnewid a grymuso pobl a theuluoedd yn Nhongwynlais a’r pentrefi cyfagos.”