James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant Catwg, Pentyrch

“Mae ein heglwys yn adeilad rhestredig Gradd II, a thros y blynyddoedd, mae nifer o broblemau wedi codi: yn gyntaf, y tu mewn i’r Eglwys, roedd rhai o’r estyllod sy’n helpu i insiwleiddio’r nenfwd cromennog wedi dod yn rhydd neu ddisgyn i ffwrdd, gan achosi problem ddiogelwch oedd yn rhaid ei datrys ar unwaith; yn ail, roedd cerrig copa a llechi ar y to a'r wal ddwyreiniol wedi llithro a chracio, gan bery i ddŵr ddod mewn i’r eglwys; ac yn olaf, roedd yna sawl twll yn y ffenestri, oedd yn achosi tipyn o ddrafft er bod gennym system wresogi dda. Mae’r grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen wedi ein helpu i gwblhau’r gwaith hanfodol hwn, gan wneud ein heglwys unwaith eto yn lle cynnes, diogel a chroesawgar i addoli a chynnal gweithgareddau cymdeithasol. Diolch yn fawr iawn!"