James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Urban Crofters, Y Rhath

Caewyd drysau eglwys y Santes Anne yn y Rhâth, Caerdydd yn 2015, gan ail-agor ym mis Ionawr 2019 fel eglwys yr Urban Crofters, eglwys gymunedol genhadol dan adain yr Eglwys yng Nghymru. Ers hynny, gwnaed llawer o newidiadau a gwelliannau i adeilad yr eglwys, a defnyddiwyd grant gan Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen yn benodol ar gyfer toiledau newydd. Yn lle’r un toiled a’r ciwiau parhaus, mae yn yr adeilad nawr bedwar toiled newydd, gydag un ohonynt yn hygyrch ar gyfer y llai able. Mae’r mynychwyr i gyd wrth eu bodd gyda’r gwelliannau, ac yn diolch yn fawr i’r Ymddiriedolaeth am eu cefnogaeth i’r gwaith