James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Aenon, Treforus

Roedd aelodau Eglwys Bedyddwyr Aenon yn Nhreforys yn awyddus i ail-adeiladu eu neuadd gyfarfod ac adnewyddu'r ardal addoli yn gyfangwbl. Roedd y prosiect yn cynnwys: gosod cegin newydd a’r holl offer angenrheidiol ynddi; gosod toiledau newydd gyda chyfleusterau addas i’r anabl ac ystafell gawod ar wahân; adeiladu man addoli addas ar gyfer anghenion eglwys y dyfodol gyda waliau wedi’u selio rhag unrhyw wlybaniaeth; prynu a gosod system sain o’r radd flaenaf; a newid cynllun y brif eglwys i gael mynedfa agored. Gellir gweld rhagor o fanylion am y gwaith adeiladu a’r newid mawr o fewn yr eglwys yn dilyn yr holl waith wefan Eglwys Aenon – Our New Building – Aenon Baptist Morriston.