James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Gymunedol Rock, Gilfach Goch

Penderfynodd Eglwys Gymunedol Rock yn Gilfach Goch brynu hen adeilad ysgol ar gyfer yr eglwys, a defnyddio eu harian i atgyweirio ac adnewyddu'r adeilad. Gwnaethant gais am grant i helpu gyda’r gost o atgyweirio’r to fflat a’r ffenestri oedd yn gollwng, a threfnwyd llawer o ddigwyddiadau i godi arian ychwanegol ar gyfer y prosiect. Maen nhw’n disgrifio eu hunain fel “eglwys allblyg sy’n credu fod angen i’r gymuned gyfan gael ymdeimlad o berthyn cyn y gellir gwneud disgyblion” ac mae aelodau’r eglwys yn gweithio’n galed i rannu cariad Crist ymysg y gymuned o’u cwmpas. Mae’r eglwys yn rhedeg Banc Bwyd Trussell, rhaglen sy’n rhoi cymorth i’r digartref, bore coffi cymunedol ddwywaith yr wythnos, grŵp plant Rock Solid wythnosol a gweithgareddau drwy’r wythnos i blant yn ystod gwyliau’r ysgol.