James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys New Life, Aberteifi

Yn Nhachwedd 2019, derbyniodd Eglwys New Life, Aberteifi, grant oddi wrth Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen i osod system larwm tân yn ei hadeilad. Roedd yr eglwys wedi penderfynu defnyddio hen archfarchnad yn y dref fel cartref, a bu’n rhaid gwneud llawer o waith addasu ar gyfer anghenion yr eglwys. Roedd rhaid wrth gwrs rhoi system larwm dân newydd sbon yn yr adeilad yn unol â rheolau adeiladu, ac roedd yr eglwys yn ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am ei haelioni tuag at y gost.

Nod cenhadol yr eglwys yw “rhannu cariad Iesu Grist â’r gymuned mewn nifer o ffyrdd ymarferol.” Mae adeilad yr eglwys yn cael ei ddefnyddio’n helaeth iawn at bob math o bwrpasau: cynnal gwasanaethau, cyrddau gweddi a chlybiau pobl ifanc cyd-enwadol; y Banc Bwyd lleol; cyrsiau Alpha i’r gymuned; cwnsela Cristnogol; cynadleddau Cristnogol; sesiynau iachau; dosbarthiadau dysgu Cymraeg; ac mae’n gartref i brosiect ail-gylchu dodrefn.