James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Sant James, Y Wig, Bontfaen

Mae eglwys St James yn y Wig yn adeilad rhestredig Gradd II 900 mlwydd oed, ac yn ystod 2017, aeth yr aelodau ati i drefnu ailosod y to. Y bwriad wedyn oedd cychwyn ar brosiect newydd i osod toiledau a chyfleusterau paratoi lluniaeth er mwyn gwella’r gwasanaeth y mae’r eglwys yn ei ddarparu i’r gymuned. Fodd bynnag, daeth yn amlwg yn fuan fod angen llawer o waith hanfodol ar yr adeilad i fynd i’r afael â materion iechyd a diogelwch cyn i’r aelodau allu dechrau ar brosiect newydd.

Dyfarnwyd grantiau gan amrywiol sefydliadau, gan gynnwys y Welsh Church Act Fund, yr All Churches Trust, Corff Cynrychiolwyr yr Eglwys yng Nghymru, Cyfeillion Eglwys St James, ac Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen, i gefnogi’r gwaith hanfodol oedd ei angen ar yr adeilad. Roedd hyn yn cynnwys ailbwyntio muriau gogleddol, deheuol a dwyreiniol y gangell, atgyweirio’r difrod a achoswyd i’r waliau mewnol gan leithder ofnadwy, atgyweirio ffenestr cangell y de, tynnu’r plinth oedd o dan y bedyddfaen a gosod carreg newydd wastad yn ei lle, symud y garreg ganoloesol oedd yn sownd i’r wal ddwyreiniol a’i gosod ar bileri carreg newydd, a gwneud atgyweiriadau i’r tŵr a’r ceiliog ar y tŵr.