James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys San Mihangel, Mitchel Troy

St Michael and All Angels yw’r unig eglwys yn Mitchel Troy ac mae ei haelodau’n cynnwys rhai o’r traddodiad Methodistaidd, Catholig a’r Crynwyr. Mae’r eglwys yn ceisio cynnal gwasanaethau a gweithgareddau sy’n cefnogi Cristnogion o bob enwad ac mae llawer o weithgareddau yn cael eu trefnu ar y cyd gydag eglwysi Bedyddiedig, Methodistaidd, Catholig ac Efengylaidd yn yr ardal dan faner ‘Eglwysi Ynghyd ym Mynwy’. Mae’r eglwys yn dyddio’n ôl i 1208 gyda chysylltiadau â’r teulu Beaufort, ac mae ganddi lawer o nodweddion hanesyddol pwysig, ond doedd yr adeilad ddim yn un defnyddiol a chroesawgar ac yn addas i gael ei ddefnyddio’n helaeth gan y  gymuned. Felly penderfynodd yr aelodau y dylid mynd ati i dynnu’r hen seddau a gosod seddau newydd yn eu lle, trwsio lloriau oedd wedi’u difrodi, gosod toiledau newydd hygyrch i’r anabl, gosod cegin iawn, prynu allor symudol a chynhyrchu byrddau dehongli ar gyfer y tu mewn a’r tu allan i’r eglwys.

Cwblhawyd y gwaith hwn ar 6 Awst 2021, diwrnod cyn i briodas gael ei chynnal yno, felly fe'i defnyddiwyd yn syth, gyda'r gwesteion yn gwerthfawrogi'r cyfleusterau toiled. Mae’r patrwm arferol o wasanaethau wedi’i ail-ddechrau yn dilyn cyfyngiadau Covid a llawer o weithgareddau a digwyddiadau eisoes ar y gweill. Mae’r rhain yn cynnwys meithrinfa Tree Tots ddwywaith yr wythnos yn ystod y tymor, grŵp Cefnogi Dementia lleol, Boreau Coffi wythnosol, Gŵyl Diolchgarwch a barbeciw i ddathlu, Gwasanaeth Argyfwng Hinsawdd gyda gwahoddiad i arweinwyr lleol, a chyngerdd coffa elusennol.

Mae’r eglwys ar agor bob dydd ac er nad oes gan yr eglwys gownter pobl hyd yma, mae llawer o bobl yn ymweld â’r eglwys ac yn gwerthfawrogi’r cyfleusterau. Mae'r aelodau yn y broses o weithio gydag aelodau'r gymuned i ddatblygu byrddau gwybodaeth yn yr eglwys ac yn y maes parcio cyfagos. Cafwyd llawer iawn o adborth cadarnhaol ar y gwaith gorffenedig, ac mae aelodau’r eglwys yn “hynod ddiolchgar i Sefydliad James Pantyfedwen am eu cefnogaeth”.