James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Bethesda, Narberth

Mae gan yr eglwys hanesyddol hon yng Nghymru gysylltiadau ag achos y Bedyddwyr yn 1689, a defnyddir yr adeilad bob dydd ar gyfer amrywiaeth eang o weithgareddau a chyfarfodydd, gan gynnwys Ciniawau Brawdoliaeth, Astudiaethau Beiblaidd, Cymdeithas Wedi’r Bregeth, Cymdeithas y Merched, Cyfarfodydd AA, Clwb Rotary Arberth, Listening Post (sesiynau galw heibio i oedolion), grŵp i blant ifainc, dau grŵp i fabanod, a Chlwb Crefft. Bu aelodau'r eglwys yn gweithio'n galed am flynyddoedd lawer i geisio dod o hyd i'r cyllid angenrheidiol ar gyfer prosiect sylweddol, prosiect oedd yn cynnwys darparu allanfeydd brys, cyfleusterau a mynediad i'r anabl, a gwella cyfleusterau yn y gegin. Roedd yr eglwys yn ddiolchgar iawn i grant Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am eu cefnogaeth, a ddefnyddiwyd yn benodol ar gyfer y gegin newydd sbon. Mae hon bellach wedi'i gosod a phawb i'w gweld wrth eu bodd gyda'r ddarpariaeth newydd.