James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Capel Tabernacl, Caerdydd

Ddechrau Ionawr 2021, dechreuwyd ar y gwaith o osod ramp yn ei le y tu allan i Gapel y Tabernacl yn yr Aes, Caerdydd. Cliriwyd yr ardal o flaen y capel a bu rhaid i aelodau dramwyo i oedfaon trwy fynedfa’r Festri. O fewn tua thri mis, adeiladwyd ramp a gosodwyd grisiau newydd tu flaen y capel. Ail osodwyd y cerrig llechi i greu ardal ddiogel o flaen y fynedfa. Ail-baentiwyd rhannau o’r blaen a’r wal newydd sydd yn rhan o’r ramp.

Yn ystod yr un cyfnod ail strwythurwyd ac addurnwyd tŷ bach allanol wrth ymyl y Festri i fod yn un hygyrch at ddefnydd pobl llai abl. Yng nghefn y capel bu rhaid tynnu i lawr adeilad tŷ bach y dynion gan nad oedd yn ddiogel ac fe ail osodwyd gwaith pibau nwy a thrydan o dan y ffenest liw er mwyn diogelwch.

Mae’r aelodau wrth eu bodd yn defnyddio’r cyfleusterau newydd, y tŷ bach a’r ramp, o Sul i Sul, yn enwedig y rhai hynny sydd wedi gweld cerdded ar risiau yn anodd ac eraill â thrafferthion symud.   Mae’r teuluoedd ifanc gyda babanod wedi gweld bod budd i’r gwaith adeiladu hefyd ac wedi gweld gwahaniaeth. Mae holl ddefnyddwyr y capel, yr aelodau a’r cyfeillion sy wedi ymweld yn ddiweddar, wedi rhyfeddu pa mor dda mae’r ramp yn edrych ac yn gweddu yn naturiol heb amharu ar bensaernïaeth arbennig y Tabernacl.  

Diolch yn fawr i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y cymorth drwy  grant tuag at y gost.