James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Bethlehem, Spittal

Mae Bethlehem yn eglwys Fedyddiedig efengylaidd, ac yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae wedi ceisio ehangu ei chenhadaeth a’i hymestyn allan at bob rhan o'r gymuned. Trefnir nifer o weithgareddau gan gynnwys grŵp rhieni a phlant bach, cinio cawl cymunedol, grŵp crefftau merched, grŵp cinio a thrafod oedolion ifanc, clwb gwyliau oedran cynradd sy'n darparu cinio am ddim i'r plant, a grŵp i ieuenctid ysgolion uwchradd. Yn ogystal, maent yn cynnal digwyddiadau cymdeithasol yn fisol yn cynnwys nosweithiau cwis, bowlio deg, nosweithiau ffilm, helfeydd trysor, arddangosfeydd tân gwyllt a ffeiriau Nadolig. Mae pob un o'r grwpiau cymunedol a'r gweithgareddau allanol yn rhoi pwyslais ar adeiladu cysylltiadau â'r gymuned, cryfhau perthynas â phobl y tu allan i’r Eglwys a dangos cariad Crist trwy weithred yn ogystal â thrwy air. 

Mae adeilad yr eglwys yn 200 mlwydd oed eleni, wedi'i gynnal a'i gadw'n dda ac, ar y cyfan, yn addas at ddibenion y gynulleidfa, ond roedd pryder mawr ynglŷn â diogelwch y balconi. Pan oedd y gynulleidfa'n llai o nifer, roedd pawb yn gallu eistedd lawr staer, ond wrth i nifer y mynychwyr gynyddu, roedd angen defnyddio'r balconi. Gan fod y grisiau i'r balconi yn anwastad, teuluoedd ifanc yn bennaf sy'n eistedd i fyny'r grisiau, ond dim ond 70cm o uchder oedd y rhwystr pren ym mlaen y balconi ac felly'n beryglus i fabanod a phlant ifanc. 

Mae'r aelodau'n ddiolchgar iawn i Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen am y grant tuag at y gost o wneud y balconi yn yr eglwys yn ddiogel i'w ddefnyddio. Penodwyd contractwr i osod balwstrad gwydr o amgylch blaen y balconi ac ar draws chwe ffenestr fawr, ac maent wedi'u gosod yn sensitif yn unol â golwg gweddill y capel. Yn dilyn y gwaith, mae'r eglwys yn gallu eistedd 95 o bobl yn ddiogel ar y balconi ar gyfer y gwasanaethau eglwysig. A chwblhawyd y gwaith mewn pryd ar gyfer dathliadau’r ddaucanmlwyddiant!