James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys Fethodistaidd Wesley, Eaton Road, Abertawe

Roedd cynulleidfa Eglwys Fethodistaidd Wesley, Eaton Road, Abertawe yn awyddus i gael gwared ar y wal oedd yn rhannu’r ardal addoli a'r ardal gymunedol a gosod wal symudol yn ei lle. Roedd yn fwriad hefyd gwella golwg a mynediad yr adeilad, ynghyd â chryfhau’r diogelwch o gwmpas yr adeilad. 

Rhan gyntaf y prosiect oedd y flaenoriaeth a llwyddodd yr eglwys i gyflawni'r gwaith yn union cyn y cyfnod clo. Er bod rheoliadau Covid wedi rhwystro unrhyw ddefnydd o'r adeilad am ddeuddeng mis, roedd y newidiadau a wnaed yn caniatáu i'r eglwys ddefnyddio ardal addoli ehangach pan gafodd y cyfyngiadau eu codi. Roedd modd i'r gynulleidfa lawn fynychu gwasanaethau, ac ni fyddai hyn wedi bod yn bosibl cyn cwblhau’r prosiect. 

Mae'r Gymuned Asiaidd hefyd yn defnyddio adeilad yr eglwys ar gyfer gwasanaethau.