James Pantefedwyn Foundation

01970 612806post@jamespantyfedwen.cymru

☰ Menu

Eglwys y Santes Fair, Abergwaun

Roedd aelodau Eglwys y Santes Fair yn Abergwaun yn awyddus i wneud eu heglwys yn fwy diogel a defnyddiol ar gyfer eu cynulleidfa a'r gymuned. Roedd eu cynlluniau yn cynnwys amrywiol elfennau:

  • adeiladu estyniad bychan oedd yn cynnwys mynedfa dan do, dau doiled, swyddfa/storfa a lle ychwanegol o dan yr estyniad. Mae'r estyniad wedi’i adeiladu ar wal ogleddol yr eglwys a symudwyd yr ystafell fechan oedd yn gartref i'r boeler gwresogi. Agorwyd drysau o dan ddwy ffenestr y mur gogleddol, gan ddarparu mynediad mewnol o'r estyniad i'r brif eglwys;
  • creu lle i weini lluniaeth yn ochr ddeheuol yr eglwys. Mae'r gwaith coed wedi'i gwblhau yn ofalus i gyd-fynd â'r gwaith coed oedd i’w weld yn yr eglwys eisoes. Mae silffoedd storio, sinc, peiriant golchi llestri, microdon a gwresogydd dŵr poeth wedi’u gosod ynghudd o fewn y cypyrddau;
  • roedd hefyd angen clirio'r balconi a'i wneud yn ddiogel trwy osod sgriniau gwydr clir o’i flaen;
  • codwyd lefel y dreif i fod cyfuwch â’r mynediad i’r eglwys, ac adeiladwyd wal bwrpasol i amddiffyn pobl rhag cwymp chwe throedfedd yn ardal yr estyniad.

Mae’r prosiect bellach wedi’i gwblhau, ac yn sicr wedi gwneud yr eglwys yn fwy defnyddiol fel adeilad cymunedol ac mae’r aelodau’n ddiolchgar iawn i'r noddwyr a'r darparwyr grantiau sydd wedi helpu i droi’r freuddwyd yn realiti.